Disability Arts Cymru was formed as a Charity to enable participation in the arts for disabled people in Wales in 1982. Working across all art forms DAC is the only all Wales disability-led arts organisation. Our small team works to open up access and opportunity for disabled artists at every stage in their creative journey.
Ffurfiwyd Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn 1982, fel elusen i alluogi pobl anabl Cymru i gymryd rhan yn y celfyddydau. Yn gweithio ar draws pob maes celfyddydol, DAC yw’r unig sefydliad celfyddydol wedi’i arwain gan anabledd sy’n gweithredu’n genedlaethol. Mae ein tîm bychan yn gweithio i gynnig mynediad a chyfleoedd i artistiaid anabl ar bob rhan o’u taith greadigol.
"Being a member of Disability Arts Cymru is so much more than being part of an Arts organisation: I liken it to being part of a family, where everyone is massively supportive and encouraging of each other and the opportunities to grow as an Artist, thrive and become truly professional in my practice have been a massive help to me. DAC membership has been the greatest gateway to becoming recognised as a fully rounded Artist and the entire team at DAC care massively about the membership and the art we produce. Without the care and nurture of DAC, I definitely wouldn't be as comfortable in my own abilities and as confident in my practice as I am and I will always be truly grateful for the organisation and its core values and belief in me."
"Mae bod yn aelod o Celfyddydau Anabledd Cymru gymaint mwy na bod yn rhan o sefydliad Celfyddydol: dwi’n ei gymharu gyda bod yn rhan o deulu, lle mae pawb yn hynod gefnogol ac anogol o’i gilydd a’r cyfleoedd i dyfu fel Artist, i ffynnu ac i fod yn wirioneddol broffesiynol. Mae’r pethau hyn oll wir wedi fy helpu i fod yn wirioneddol broffesiynol yn fy ymarfer ac wedi bod yn gymorth mawr imi. Dwi’n credu mai bod yn aelod o DAC yw’r cynhwysyn pwysicaf i mi wrth ddod yn Artist mwy cyflawn ac mae’r tîm cyfan yn DAC yn poeni’n ddirfawr am yr aelodau a’r celf rydym yn ei greu. Heb ofal a meithrinfa DAC, dwi’n sicr na fuaswn i mor gyfforddus yn fy ngalluoedd ac mor hyderus yn fy ymarfer, a byddaf yn wastadol ddiolchgar i’r sefydliad a’i werthoedd craidd a’i gred ynof.”