heroImage

Strata Florida Trust - Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur

Pontrhydfendigaid, Ceredigion

https://dhr91o08xrgul.cloudfront.net/image/vco_33325_c86b1bd969_5ee6ae1232_a0996bdfb1_16146735.jpg Logo

£2,201

Raised in 2024

123

All Donations

2

All fundraisers

Set up in 2006, Strata Florida Trust is a charity whose aim is to preserve the historical and architectural heritage of the Mynachlog Fawr farm buildings at Strata Florida and advance the education of the public with regards the buildings, Strata Florida and its surrounding landscape and heritage. The Trust aims to do this by restoring all of the buildings to create The Strata Florida Centre; a place that celebrates Welsh history, culture and landscape.

Today, Strata Florida is made up of a variety of different elements, from the 12th century abbey ruins; to the early 19th century St Mary’s church built on the site of original abbey chapel; through to the adjoining 17th century Mynachlog Fawr Farmstead bought by the Trust in 2016.

The Grade II* listed Mynachlog Fawr farmhouse was originally built in 1670-80 as a gentry mansion out of the remains of the abbey refectory after the Dissolution in 1539. Following alteration, the ground-floor today consists of a panelled parlour containing features of its gentry past including a late-C17 panel painting and painted ceilings; a C17 staircase, and a large kitchen which preserves fittings from its use as a Welsh tenant farmhouse in the C19 and C20. Spanning several centuries, the house and objects contained within have a fascinating architectural and social history story to tell. Sadly however, today the house is in very poor condition and in need of urgent repair, with no public access permitted. The Ty pair and cart shed, stables, barn and beudy are grade II listed, dating from the later C17 to the late C19.

Until we receive funding to repair and convert these beautiful historic buildings to new uses, they are constantly battling the Welsh weather. We have a number of temporary measures to preserve and protect them, but it is an ongoing challenge to raise funds for their upkeep. Money towards new slates on the roof to keep the rain out, or repointing the stonework in lime is crucial to protecting these buildings.

Follow us on social media: Facebook, Twitter and Instagram

***
Elusen a sefydlwyd yn 2006 yw Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, a’i nod yw gwarchod treftadaeth hanesyddol a phensaernïol adeiladau fferm Mynachlog Fawr yn Ystrad Fflur a datblygu’r addysg i’r cyhoedd mewn perthynas â’r adeiladau, Ystrad Fflur a’r dirwedd a’r dreftadaeth o’u hamgylch. Nod yr Ymddiriedolaeth yw gwneud hyn trwy adfer yr holl adeiladau i greu Canolfan Ystrad Fflur; lle sy’n dathlu hanes, diwylliant a thirwedd Cymru trwy ddigwyddiadau, hyfforddiant preswyl a dibreswyl ac arlwy profiad i ymwelwyr yn y ffermdy.

Heddiw, mae Ystrad Fflur yn cynnwys llawer o wahanol elfennau, o adfeilion yr abaty o’r 12fed ganrif; i eglwys y Santes Fair a adeiladwyd ar safle gwreiddiol capeli’r abaty ar ddechrau’r 19eg ganrif; i Fferm gyfagos Mynachlog Fawr o’r 17eg ganrif a brynwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn 2016. 

Adeiladwyd ffermdy rhestredig Gradd II* Mynachlog Fawr yn wreiddiol ym 1670-80 fel plasty i’r bonedd o weddillion ffreutur yr abaty ar ôl y Diddymiad ym 1539. Ar ôl addasu, mae’r llawr gwaelod heddiw’n cynnwys parlwr panelog sy’n cynnwys nodweddion o’i orffennol bonheddig gan gynnwys peintiad panel o ddiwedd yr 17eg ganrif a nenfydau peintiedig; grisiau o’r 17eg ganrif, a chegin fawr sy’n gwarchod ffitiadau o’i ddefnydd fel ffermdy tenant Cymreig yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Roedd gan y tŷ, sy’n ymestyn dros sawl canrif, a’r gwrthrychau ynddo stori bensaernïol a hanes cymdeithasol rhyfeddol i’w dweud. Fodd bynnag, mae’r tŷ mewn cyflwr gwael iawn erbyn hyn ac angen ei atgyweirio ar frys, ac ni chaniateir mynediad i unrhyw aelod o’r cyhoedd. Mae’r Tŷ Pair a’r cartws, y stablau, yr ysgubor a’r beudy i gyd wedi’u rhestru’n adeiladau gradd II, gan ddyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif i ddiwedd y 19eg ganrif.

Hyd nes y byddwn yn derbyn cyllid i atgyweirio a throsi'r adeiladau hanesyddol hardd hyn at ddefnydd newydd, maent yn brwydro yn erbyn tywydd Cymru yn gyson. Mae gennym nifer o fesurau dros dro i'w gwarchod a'u hamddiffyn, ond mae'n her barhaus codi arian i'w cynnal. Mae arian tuag at lechi newydd ar y to i gadw'r glaw allan, neu ail-bwyntio'r gwaith cerrig mewn calch yn hanfodol i amddiffyn yr adeiladau hyn.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: Facebook, Twitter ac Instagram

What your gift could provide

£5

replaces a slate on the farmhouse or farm buildings - yn disodli llechen ar y ffermdy neu'r ffermdai

£20

helps maintain an item in our exhibition - helpu i gofalu am eitem yn ein harddangosfa

£45

repoints 1 square metre of stonework with lime - ail-bwyntio 1 metr sgwâr o waith carreg gyda calch

Our details

There are no fundraisers for this charity