Ffocws ar Gymru: tri sydd wedi cael budd o’n rhaglen genedlaethol £3m+.

Mae Localgiving yn falch iawn o’n partneriaeth arbennig sydd wedi darparu dros £3m o gyllid ar gyfer achosion da ledled Cymru rhwng 2016 a 2023. Fel rhan o’r rhaglen genedlaethol bwrpasol hon, mae Localgiving a’n partneriaid cyllido wedi cefnogi dros 500 o sefydliadau ym mhob un o’r 22 o siroedd sydd yng Nghymru. Mae'r cymorth hwn wedi bod yn arbennig o werthfawr, gan helpu grwpiau i ddelio â chyfnod Covid-19, prisiau ynni cynyddol a’r argyfwng costau byw, ymhlith heriau eraill. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y rhaglen ac rydyn ni’n falch iawn o allu rhannu hanesion tri o'r prosiectau sydd wedi cael budd o'n gwaith yng Nghymru. 

With Music in Mind 

Ymunodd y mudiad hwn â Localgiving a rhaglen Cymru ar 11eg Medi 2019. Ers hynny maent wedi cynnal tair apêl ar-lein, wedi cynnal pum gweithgaredd codi arian ac wedi gwneud cais llwyddiannus am dri “Magic Little Grant” gwerth £500 drwy Localgiving. Maent hefyd wedi cael dau grant o’r Gronfa Materion Cymunedol, a’r rheini'n £10,000 yr un – un ar gyfer Banc Cynnes i fynd i’r afael â Thlodi Tanwydd a’r llall i roi sylw i Unigrwydd ac Arwahanrwydd Cymdeithasol. Maent wedi datgloi eu cyllid cyfatebol o £250 ac wedi codi dros £10,300 ers ymuno â Localgiving.

“Cyn ymuno â Localgiving, doedden ni erioed wedi codi arian ar-lein nac wedi cynnal apêl ar-lein o’r blaen. I ni, roedd codi arian yn golygu noddi digwyddiadau, gwneud casgliadau, cynnal ambell raffl a gwerthu nwyddau. Mae'r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ein gweithgareddau codi arian. Mae wedi bod mor ddefnyddiol wrth godi arian at achos penodol, neu pan fydd angen help i roi hwb i'n hincwm i sicrhau parhad ein grwpiau.”

Mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio’n bennaf i helpu’r sefydliad i barhau â'i waith craidd, sef darparu gweithgareddau canu a chymdeithasol, ymarfer corff ysgafn a grwpiau cymdeithasol. Maent hefyd wedi defnyddio arian at ddibenion penodol, er enghraifft i brynu offer neu i gyfrannu at gostau digwyddiadau. “Mae gallu dal ati i fynychu ein grwpiau yn dwyn budd i aelodau’r grŵp, gan wella eu lles meddyliol a lleihau unigrwydd. Mae tua 200 o bobl wedi elwa’n uniongyrchol, ond mae llawer mwy yn elwa’n anuniongyrchol o’r gwaith ‘da ni’n ei wneud.”

“Mae’r gefnogaeth a gynigir gan y rhaglen wedi ein galluogi i ddysgu am ddulliau effeithiol o godi arian ar-lein drwy lwyfan Localgiving, gan gynnwys pethau fel apeliadau. Mae’r tîm yn teimlo’n fwy hyderus yn codi arian ar-lein, yn creu’r digwyddiadau codi arian ac yn rhannu dolenni drwy ein cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn ei dro yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith.”

“Mae With Music in Mind yn dibynnu ar grantiau a rhoddion ar ben incwm aelodaeth a noddwyr corfforaethol, felly mae’r ffaith ein bod ni’n perthyn i Localgiving yn fendith i’n sefydliad. Drwy apeliadau a chodi arian, ynghyd ag amrywiaeth o grantiau, ‘da ni wedi codi mwy o arian nag y bydden ni erioed wedi gallu ei ddychmygu. Mae hyn wedi ein galluogi i barhau â’n gwaith hanfodol a chefnogi pobl hŷn yn y gymuned i deimlo’n llai unig a gwella eu lles.”


Outside Lives 

Ymunodd y mudiad hwn â rhaglen Cymru Localgiving ar 4ydd Mawrth 2021. Maen nhw wedi cynnal pedair apêl ar-lein ac wedi cael dau ‘Magic Little Grant’ gwerth £500. Maent wedi datgloi eu cyllid cyfatebol o £250 ac wedi codi dros £9,000 ers ymuno â Localgiving.

Roedd Outside Lives – mudiad nid-er-elw yng Ngogledd Cymru – yn wynebu dipyn o her. Doedden nhw erioed wedi codi arian ar-lein o'r blaen ac roedden nhw’n chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â rhoddwyr posib. Roedd y diffyg presenoldeb ar-lein yn cyfyngu ar eu gallu i gyrraedd mwy o roddwyr a chodi arian ar gyfer eu prosiectau. Roeddent angen dod o hyd i ateb i wella eu hymdrechion codi arian a’u cyrhaeddiad.

“Ar ôl ymuno â’r rhaglen, gwelodd Outside Lives welliant sylweddol yn eu gweithgareddau codi arian. Llwyddodd y rhaglen i’w helpu i gyrraedd pobl newydd, a gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn cyfrannu at wahanol apeliadau hefyd. Cawsom ein syfrdanu gan haelioni’r cefnogwyr newydd yma, ac roedd yr holl gyfraniadau newydd yn dangos pa mor effeithiol oedd llwyfan Localgiving.”

“Chwaraeodd Localgiving ran hollbwysig yn llwyddiant apeliadau Outside Lives, gan eu helpu i adeiladu gofod cwnsela a chodi arian ar gyfer bws mini. Roedd yr apeliadau yma’n llwyddiannus tu hwnt, diolch i gymorth Localgiving a’r ffaith bod y mudiad yn cael mwy o sylw ac amlygrwydd yn ei sgil.”

“Roedd y gefnogaeth a gynigiwyd gan Localgiving yn mynd y tu hwnt i gymorth ariannol yn unig. Rhoddodd hwb i hyder Outside Lives wrth godi arian hefyd. Helpodd y rhaglen y mudiad i ddeall mwy am y byd codi arian ar-lein, a chodi ymwybyddiaeth am ein gwaith ymhlith cynulleidfa fwy. O ganlyniad, daethom yn godwyr arian mwy hunan-sicr ac effeithiol, ac mae hyn wedi hyrwyddo ein cenhadaeth ymhellach.”

“Roedd Localgiving nid yn unig yn darparu llwyfan ar gyfer codi arian, fe wnaeth hefyd gyfateb ymdrechion codi arian Outside Lives, gan roi hwb sylweddol i effaith yr apeliadau. Roedd y sylw a’r cymorth ariannol ychwanegol yma’n allweddol ar gyfer ein hapeliadau. Mae Localgiving yn adnodd arbennig ac amhrisiadwy.”


Banc Bwyd Sgeti

Ymunodd y mudiad hwn â Localgiving a rhaglen Cymru ar 5ed Rhagfyr 2022. Ers hynny, maen nhw wedi cynnal un apêl ar-lein ac wedi cael dau ‘Magic Little Grant’ gwerth £500. Maen nhw wedi datgloi eu cyllid cyfatebol o £250 ac wedi codi dros £4,000.

 Cyn i Fanc Bwyd Sgeti yn Abertawe ymuno â Localgiving, roedd wedi bodoli ers tua 10 mis ac nid oedd wedi cynnal apêl ar-lein o'r blaen. “Roedd anogaeth a chyngor Rheolwr Cenedlaethol Cymru Localgiving yn fuddiol iawn. Roedd ein hapêl ar-lein yn llwyddiant ysgubol. Ar ôl creu’r cysylltiad â thair her yr oedd gwirfoddolwyr y Banc Bwyd wedi’u cyflawni (taith gerdded noddedig ar hyd rhan o arfordir Gŵyr, rhedeg 5k a phlymio o’r awyr), llwyddwyd i ddenu llawer mwy o roddion na’r disgwyl. Roedd y cynnig o £250 o “arian cyfatebol” gan Localgiving (gan gynnwys Rhodd Cymorth – a Localgiving ddeliodd â hynny chwarae teg) yn gymhelliant rhagorol. Yn y pen draw fe gyrhaeddon ni’r targed a llwyddo i ragori arno’n sylweddol.”

“Mae’r llwyddiant rydyn ni wedi’i gael wrth godi arian ar-lein wedi ein gwneud yn fwy hyderus, ac o ganlyniad rydyn ni’n debygol o godi arian fel hyn eto. Roedd yr apêl ar-lein – a gafodd ei rannu â ffrindiau llawer o’r gwirfoddolwyr a phobl eraill, a’i hyrwyddo dro ar ôl tro ar y cyfryngau cymdeithasol – yn annog mwy a mwy i roi i’r Banc Bwyd a dysgu amdano. Roedd y dudalen apeliadau'n dangos sylwadau brwdfrydig gan y rhoddwyr.”

“Mae’r arian a gafwyd drwy Localgiving wedi helpu’r Banc Bwyd i brynu mwy o fwyd hanfodol i’w roi mewn parseli bwyd. Mae cynnydd wedi bod yn y galw, yn rhannol oherwydd y cynnydd mewn prisiau bwyd sylfaenol. Mae nifer y bobl sy’n cael cymorth gan y Banc Bwyd wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o 150 y mis i tua 150 yr wythnos fel arfer.”

“Fel y gwirfoddolwyr eraill, rwy’n cael llawer o foddhad o wirfoddoli a gwybod ei fod yn gwella bywydau pobl leol sydd mewn sefyllfaoedd anodd. Daeth Anna, un o’r gwirfoddolwyr, i’r Banc Bwyd fel ceisiwr lloches i ddechrau, ar ôl bod mewn protestiadau yn erbyn Putin, a chael ei gorfodi i ffoi o Rwsia. Dywedodd “Roedd gen i gywilydd mawr fod rhaid i mi fynd i’r Banc Bwyd, ond pan welais i wynebau caredig a hael y gwirfoddolwyr, rhoddais ochenaid o ryddhad. Roedd arna i wir eisiau diolch iddyn nhw, ond doedd gen i ddim i'w gynnig ond fy nwylo. Gofynnais tybed allwn i fod yn wirfoddolwr. Fe ddechreuais i gael ffydd mewn pobl eto – mewn dynoliaeth. Roeddwn i wedi colli pob ffydd bron efo popeth oedd yn mynd ymlaen gyda Rwsia.” Mae hi’n wirfoddolwr gwerthfawr sy'n rhoi o'i hamser bob wythnos.

Diolch yn fawr

Mae rhaglen Localgiving Cymru wedi dod i ben erbyn hyn, ar ôl sawl blwyddyn o gefnogaeth hael gan gyllidwyr, yn cynnwys Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y Garfield Weston Foundation a The Waterloo Foundation. Diolch o galon i’r sefydliadau hyn. Os ydych chi’n gyllidwr, neu'n cefnogi'r trydydd sector, ac yr hoffech chi gael sgwrs am weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol yng Nghymru, cysylltwch â Luke Upton, ein Pennaeth Cyfathrebu, Luke.Upton@Localgiving.org neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni i siarad ag aelod arall o’r tîm.