Hoffai Localgiving roi teyrnged i’r bartneriaeth ryfeddol sydd wedi darparu dros £3m o gyllid ar gyfer achosion da ledled Cymru rhwng 2016 a 2023, ac i’r grwpiau sydd wedi gweithio mor galed i gefnogi eu cymunedau. Fel rhan o’r rhaglen genedlaethol bwrpasol hon, mae Localgiving a’n partneriaid cyllido wedi cefnogi dros 500 o fudiadau ym mhob un o’r 22 o siroedd sydd yng Nghymru. Mae'r cymorth hwn wedi bod yn arbennig o werthfawr, gan helpu grwpiau i ddelio â chyfnod Covid-19, prisiau ynni cynyddol a’r argyfwng costau byw, ymhlith heriau eraill.
Dysgwch am ein hymgyrchoedd a'n grantiau diweddaraf yma
Lansiwyd y rhaglen i gynorthwyo grwpiau yng Nghymru oedd ddim yn manteisio ar y cyfleoedd i godi arian ar-lein. Rhoddodd Localgiving y sgiliau a’r hyder iddynt fanteisio ar hyfforddiant a meithrin sgiliau newydd i’w helpu i greu ffrydiau incwm newydd. Pan fydden nhw’n ymuno â'r rhaglen, byddai Localgiving yn rhoi blwyddyn o aelodaeth am ddim, mynediad at Rhodd Cymorth a chymorth un-i-un ar sut i godi arian ar-lein.
Ers y lansiad, mae’r canlyniadau wedi bod yn anhygoel:
Kind Bay Initiative.
Mae cymorth gan y rhaglen wedi helpu grwpiau yn y trydydd sector yng Nghymru i godi dros £3m o gyllid ar gyfer dros 500 o achosion gwerthfawr. Heb y rhaglen, ni fyddai’r rhan fwyaf o’r incwm hwn wedi cael ei godi ac ni fyddai wedi cyrraedd cymunedau ar hyd a lled y wlad.
Fe’i hariannwyd yn wreiddiol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2016. Yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, adeiladwyd ar yr effaith gychwynnol gyda chymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y Garfield Weston Foundation a The Waterloo Foundation. Ym mis Rhagfyr 2020, lansiodd Localgiving Crowdfund Wales – rhaglen tair blynedd newydd i helpu 150 o gyrff elusennol i gael cymorth am ddim i godi arian ar-lein. Ariannwyd y rhaglen hon gan The Waterloo Foundation a’r Garfield Weston Foundation.
Darllenwch rai o straeon diweddaraf cymuned Localgiving yma
Yn ogystal â'n llwyfan ar-lein a mynediad at Rhodd Cymorth, roedd y rhaglen yn cynnig llawer o hyfforddiant hefyd. Rydym wedi cynnal 130 o weithdai ers 2016, a bron bob un ohonynt yn cael eu cyflwyno mewn lleoliad gan rywun, nes daeth Covid-19 a'r cyfyngiadau ar symud o le i le. Mae hyn yn cynnwys 55 ers mis Rhagfyr 2020, y mwyafrif ohonynt ar-lein. Mae’r sesiynau hyn wedi helpu nid yn unig sefydliadau sy’n rhan o’r prosiect ond y rhai o’r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru hefyd. Roedd y sesiynau’n rhoi syniad sut i godi arian ar-lein a manteisio i’r eithaf ar farchnata digidol mewn ffordd hawdd a diddorol. Ar ben hyn, mae 11 o weminarau amser cinio rhyngweithiol wedi cael eu darlledu ac wedi bod yn boblogaidd iawn.
Circus Eruption
Mae gan Localgiving ymrwymiad unigryw a pharhaus i ddarparu tudalennau Cymraeg ac i alluogi pobl i gyfrannu drwy gyfrwng y Gymraeg. I newid i destun Cymraeg, y cyfan sydd angen i sefydliad neu gefnogwr ei wneud yw clicio ar faner Cymru ar waelod gwefan Localgiving. Mae hyn hefyd yn caniatáu i aelodau rannu dolen i dudalen gyfrannu Gymraeg a Saesneg, sy'n dangos ymrwymiad i Ddeddf yr Iaith Gymraeg. Crëwyd nifer o adnoddau dwyieithog hefyd, gan gynnwys arweinlyfr Cymraeg ar gyfer codi arian ar-lein, sydd ar gael hyd heddiw yn ein pecyn cymorth i aelodau.
Dywedodd Lauren Swain ( @LaurenSwain_LG ) Rheolwr Cenedlaethol Cymru Localgiving ar gyfer y rhaglen hon; “Bu’n bleser pur cefnogi cymaint o achosion gwych ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. ‘Da ni wedi gweld effaith aruthrol y rhaglen yma, yn enwedig yn ystod cyfnodau heriol iawn, ac mae pawb yn falch iawn o’r canlyniadau a’r gwaddol y mae hyn wedi’i greu i gymunedau ym mhob cwr o Gymru. Diolch i’r holl gyllidwyr a’r cefnogwyr ‘da ni wedi gweithio gyda nhw ers 2016. Fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heboch chi!”
---> Cliciwch yma i ddarllen tair astudiaeth achos sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen – Banc Bwyd Sgeti (Abertawe), With Music in Mind (Y Bont-faen) a Gwernymynydd (Sir y Fflint).
Mae rhaglen Localgiving Cymru wedi dod i ben erbyn hyn, ar ôl sawl blwyddyn o gefnogaeth hael gan gyllidwyr, yn cynnwys Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Garfield Weston Foundation. Os ydych chi’n gyllidwr, neu'n cefnogi'r trydydd sector, ac yr hoffech chi gael sgwrs am weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol yng Nghymru, cysylltwch â Luke Upton, ein Pennaeth Cyfathrebu, Luke.Upton@Localgiving.org neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni i siarad ag aelod arall o’r tîm.
Sea Trust Wales